SL(6)103 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Rhif 17) 2021 (“y Rheoliadau”) yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, a’r rheoliadau a wnaed oddi tani, yn darparu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelu iechyd yng Nghymru a Lloegr, ac fe wneir y Rheoliadau drwy ddibynnu ar y pwerau yn adrannau 45B a 45P(2) o’r Ddeddf honno.   

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.          

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn ychwanegu Nigeria at y rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae rheoliad 12E yn gymwys iddynt.

Bydd hyn yn golygu na fyddai teithwyr o'r gyrchfan honno yn cael caniatâd i ddod i mewn i Gymru ond bod yn rhaid iddynt gyrraedd drwy borth mynediad yn Lloegr neu'r Alban a mynd i gyfleuster cwarantin wedi’i reoli, a chymryd profion PCR ar ôl cyrraedd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.               

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol, a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 5 Rhagfyr 2021.  Yn benodol, nodwn y canlynol yn y llythyr:

“Trwy beidio â chydymffurfio â’r confensiwn 21 diwrnod, bydd modd i’r Rheoliadau hyn ddod i rym ar y cyfle cynharaf a pharhau â’r dull pedair gwlad o ymdrin â theithio rhyngwladol; oherwydd y dystiolaeth newidiol ar risg mewn perthynas â’r afiechyd hwn ystyrir bod hyn yn angenrheidiol a bod modd ei gyfiawnhau yn yr achos hwn.”  

Nodwn ymhellach yr esboniad a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Oherwydd bod y nifer cynyddol o achosion amrywiolion Omicron COVID-19 yn cael eu canfod yn Nigeria, ac yng ngoleuni nifer y teithwyr sy’n teithio rhwng y wlad honno a’r DU, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol trwy ychwanegu Nigeria at y rhestr goch.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Nid yw’r diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn newid y ffaith bod y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol; mae’r Llywodraeth o’r farn y gellir eu cyfiawnhau at ddiben atal lledaeniad clefydau heintus a/neu y caniateir ymyriad ar y sail ei fod yn anelu at gyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth o’r farn hefyd eu bod yn gymesur.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Oherwydd y bygythiad difrifol ac uniongyrchol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd y cyhoedd brys, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Rhagfyr 2021